Papur 1

 

Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Ymchwiliad i lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon
Ymateb gan : Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

 

Rwy’n croesawu ymchwiliad y Pwyllgor i lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon yng Nghymru ac yn falch iawn o allu darparu tystiolaeth ysgrifenedig fel rhan o’r ymchwiliad. Rwy’n siŵr y bydd yr ymchwiliad hwn yn tynnu sylw at rai meysydd pwysig ac yn helpu i atgyfnerthu’r cysylltiadau a’r synergedd pwysig sydd rhwng chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae sicrhau llythrennedd corfforol pobl ifanc yn gam hollbwysig gan ei fod yn eu helpu i gymryd diddordeb ac i gymryd rhan mewn chwaraeon a pharhau i wneud hynny.  Mae’n amlwg bod angen i ni oresgyn yr anawsterau sylweddol sy’n bodoli o ran denu mwy o bobl ifanc i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn rheolaidd. I wneud hyn, mae’n rhaid i ni gydgysylltu ein polisïau’n well er mwyn ein helpu i ddod yn genedl iachach a mwy heini. Mae yna rai enghreifftiau da o gydweithio ledled portffolios Llywodraeth Cymru ond mae lle i wella yn y maes hwn a byddaf yn gweithio gyda Gweinidogion eraill i sicrhau ein bod yn datblygu’n   nodau a’n hamcanion cyffredin. Pwysleisiais y pwynt hwn wrth siarad yng Nghynhadledd Genedlaethol Chwaraeon Cymru’n ddiweddar.         

 

Mae chwaraeon yn helpu i’n diffinio fel cenedl. Mae chwaraeon yn agos at fy nghalon ac rwy’n mwynhau gwylio a chymryd rhan. Mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn ein haddysgu am fywyd a gallwn ddysgu sut i fod yn hunan-ddisgybledig ac i gydweithio fel tîm trwy gymryd rhan. Gallwn ddysgu sut i ennill yn raslon a cholli’n urddasol a gall helpu i weddnewid bywydau pobl, nid yn unig drwy helpu pobl i fyw bywyd iach ond hefyd helpu pobl sydd ag amrywiaeth o broblemau cymdeithasol. Dros y flwyddyn ddiwethaf rydym wedi clywed am lwyddiannau anhygoel mewn chwaraeon yng Nghymru, gyda thimau ac unigolion yn ennill medalau, cystadlaethau a dyrchafiad. Mae hyn yn siŵr o roi hwb anferth i’r genedl ac yn helpu i ysbrydoli pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon.

 

Dim ond ers amser byr yr wyf wedi bod yn Weinidog Diwylliant a Chwaraeon; ond rwyf eisoes wedi gweld pa mor bwysig yw chwaraeon i bobl Cymru. Rwy’n cyfarfod yn gyson â chynrychiolwyr sefydliadau chwaraeon amrywiol ac mae’r doniau chwaraeon eang sydd i’w cael yng Nghymru wedi creu argraff arnaf. Ond nid yw llwyddiant yn dod ar ei ben ei hun; mae’n gofyn am lawer iawn o ymroddiad a chefnogaeth gan lawer o wirfoddolwyr a hyfforddwyr. Mae’r bobl hyn yn helpu i greu profiadau a chyfleoedd o ansawdd er mwyn i bobl allu mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon ac yn helpu ein chwaraewyr mwy talentog i wireddu eu potensial.

 

Mae’r Pwyllgor wedi tynnu sylw at nifer o feysydd a byddaf yn mynd i’r afael â’r rhain yn y drefn y rhestrwyd nhw.

 

I ba raddau y mae Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru yn cyflawni’r nodau a amlinellwyd yn y Rhaglen Lywodraethu, yn y cynllun gweithredu Creu Cymru Egnïol ac yn Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru o ran lefelau cyfranogiad mewn chwaraeon;

 

Mae cymryd rhan mewn chwaraeon yn rhan hanfodol o iechyd corfforol a meddyliol byrdymor a hirdymor ac yn gysylltiedig â pherfformiad academaidd a gwybyddol. Manteision posibl eraill sy’n gysylltiedig â chwaraeon, yn enwedig o ran plant a phobl ifanc, yw y byddant yn ennill sgiliau cymdeithasol drwy chwarae gweithredol, arwain, gwaith tîm a chydweithio ac yn llwyddo i ganolbwyntio’n well yn yr ysgol gan ddisodli ymddygiad gwrthgymdeithasol a throseddol. Gall addysg gorfforol mewn ysgolion helpu i sicrhau llythrennedd corfforol a llythrennedd chwaraeon hefyd a rhoi cyfle i rai sydd wedi dadrithio gyda chwaraeon ac addysg gorfforol.

 

Yn y Rhaglen Lywodraethu, rydym yn datgan y canlynol yn glir:

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc yn gallu cael mynediad i amrywiaeth o gyfleoedd chwaraeon fel rhan o’r cwricwlwm ffurfiol, ar ôl ysgol ac yn y gymuned.

Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael sgiliau corfforol sylfaenol o oedran cynnar a bod llythrennedd corfforol yn sgil ddatblygiadol cyn bwysiced â darllen ac ysgrifennu.

 

Mae’r Rhaglen Lywodraethu hefyd yn cynnwys ymrwymiadau eraill sy’n gallu cefnogi dull ysgol gyfan o fynd i’r afael â gweithgarwch corfforol. Mae hyn yn cynnwys camau gweithredu fel cyflwyno gwelliannau i hawliau tramwy beicwyr a cherddwyr, yn cynnwys dyletswyddau sefydlu deddfwriaeth i ddarparu llwybrau beicio.

 

Mae dogfen Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon a gafodd ei lansio gan Chwaraeon Cymru yn 2010 yn cynnwys dau ddyhead clir:

 

Rôl Chwaraeon Cymru

Chwaraeon Cymru sy’n cynghori Llywodraeth Cymru ar faterion chwaraeon ac mae hefyd yn gyfrifol am helpu i ddarparu’n polisïau ar chwaraeon ledled Cymru.

 

Rydym wedi darparu cyllideb ar gyfer buddsoddi mewn chwaraeon a thrwy’r llythyr cylch gwaith blynyddol i Chwaraeon Cymru rydym wedi pennu canlyniadau disgwyliedig y buddsoddiad hwnnw. Maent wedi ymrwymo’n llawn i hyrwyddo a chyflawni ein nodau a amlinellwyd yn ein Rhaglen Lywodraethu a Chynllun Gweithredu Creu Cymru Egni. Maent wedi ymrwymo’n llawn i gyflawni ein nodau a amlinellwyd yn ein Rhaglen Lywodraethu a Chynllun Gweithredu Creu Cymru Egnïol ac i ddatblygu’r dyheadau a nodwyd yn eu dogfen, Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon.   

 

Llywodraeth Cymru / Chwaraeon Cymru: Buddsoddi mewn Chwaraeon

Mae Llywodraeth Cymru’n cefnogi datblygiad ein cymunedau gan alluogi’r rhai sydd â phroblemau cymdeithasol i gael cyfleoedd o safon i gymryd rhan mewn chwaraeon. Fel rhan o’r buddsoddiad cymunedol hwnnw rydym yn parhau i gefnogi ein rhaglen Nofio am Ddim sy’n cael ei darparu’n llwyddiannus yn 22 awdurdod lleol Cymru. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiad o £3.5 miliwn eleni sy’n cefnogi’r gwaith o ddarparu dros filiwn o sesiynau nofio am ddim bob blwyddyn ac yn denu dros 170,000 o bobl i sesiynau strwythuredig am ddim. Ein huchelgais hirdymor yw cael pob plentyn i nofio erbyn 2020 ac rydym wedi cyfleu’r neges hon yn dda i’n partneriaid.

 

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio gyda Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a nifer o awdurdodau lleol i gyflwyno sawl cynllun peilot i ehangu ein cynllun nofio am ddim i gyn-filwyr a phersonél y lluoedd arfog sy’n cymryd gwyliau o’u gwasanaeth a byddaf yn ystyried  canlyniadau’r cynlluniau peilot hyn yn y dyfodol agos.       

 

Mae sicrhau bod pobl ifanc yn cymryd rhan mewn chwaraeon yn gynnar yn eu hoes yn allweddol i gynnal eu diddordeb yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae gan Chwaraeon Cymru nifer o raglenni fel y rhaglen 5 x 60 sy’n canolbwyntio ar ddisgyblion ysgolion uwchradd ac mae hon wedi’i hategu gan gynllun Campau’r Ddraig sy’n canolbwyntio ar blant ysgolion cynradd yn cael hwyl wrth gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol.  

 

Cyflwynodd Chwaraeon Cymru y cynllun  Llysgenhadon Ifanc fel rhan o Gemau Olympaidd Llundain 2012 ac mae’r bobl ifanc hyn wedi cael cryn lwyddiant yn ysbrydoli partneriaid a rhanddeiliaid allweddol i helpu i ddarparu cyfleoedd chwaraeon. Mae’r cynllun yn galluogi plant oedran ysgol gynradd a hŷn i gymryd rhan mewn hyfforddiant strwythuredig sy’n eu galluogi i fod yn llysgenhadon chwaraeon yn eu hysgol, gan gyfrannu at gynnal gweithgareddau chwaraeon ar ôl ysgol ac estyn allan at eraill na fyddai’n cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon yr ysgol fel arall. Mae dros 3000 o blant wedi dod yn Llysgenhadon Ifanc yng Nghymru hyd yn hyn, a thua 1800 o’r rheiny’n dal i wneud y rôl hon (y gweddill wedi gadael yr ysgol). Maent wedi bod yn allweddol i gynyddu cyfranogiad mewn gweithgareddau chwaraeon, yn enwedig ymysg merched yn eu hysgolion. Mae fy swyddogion yn trafod y rhaglen gyda Chwaraeon Cymru gyda golwg ar ehangu (mwy o lysgenhadon mewn mwy o ysgolion) a datblygu (ymuno â rhaglenni eraill fel Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth) y rhaglen hon.

 

O ran datblygiad chwaraeon ar lawr gwlad, bydd Chwaraeon Cymru’n darparu buddsoddiad o dros £5 miliwn eleni i nifer o gyrff llywodraethu chwaraeon ledled Cymru a fydd yn helpu i greu cyfleoedd chwaraeon mwy cynaliadwy.

 

Mae Chwaraeon Cymru yn gweithio hefyd gyda phartneriaid newydd fel Street Games i gynnig cyfleoedd mwy hygyrch i bobl ifanc nad ydynt o bosibl yn aelodau o glybiau ysgol neu glybiau chwaraeon neu sy’n byw mewn ardaloedd difreintiedig. Mae hyn yn arwain at fater cyfle cyfartal mewn chwaraeon sy’n allweddol i’n hagenda gyffredinol. Mae Llywodraeth Cymru drwy Chwaraeon Cymru yn gweithio’n agos â Chwaraeon Anabledd Cymru a adroddodd eu bod wedi gallu darparu dros filiwn o gyfleoedd y llynedd i gymryd rhan mewn chwaraeon, yn cwmpasu amrywiaeth o gampau.

 

Mae Chwaraeon Cymru wedi datblygu nifer o strategaethau sylfaenol sy’n ymwneud â meysydd blaenoriaeth i helpu i ddatblygu ein hamcanion cyffredinol o gynyddu cyfranogiad mewn chwaraeon i bawb a chael pob plentyn i wirioni ar chwaraeon am oes. Mae’r rhain yn cynnwys Strategaeth Gymunedol, sy’n cael ei chefnogi gan Strategaeth Tlodi Plant a’r strategaeth Chwaraeon Elit a Hyfforddi. Gyda’i gilydd, mae’r strategaethau hyn yn gosod sylfeini cadarn a fydd yn ein helpu i ymateb i’r her o gynyddu cyfraddau cyfranogi, sicrhau llwyddiant drwy ein chwaraewyr elitaidd a darparu cyfleoedd chwaraeon o ansawdd gwell i bobl ifanc yn arbennig, waeth beth fo’u cefndir cymdeithasol, er mwyn iddynt fwynhau eu profiad o chwaraeon a’u hysgogi i gynnwys chwaraeon fel rhan naturiol o’u bywyd bob dydd.

 

Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol Anffurfiol

Mae gan chwaraeon wedi’u trefnu’n ffurfiol yng Nghymru gyfraniad pwysig i’w wneud i helpu Cymru i fod yn fwy actif ac i bobl wneud rhywbeth llesol i’w hiechyd. Ond dylem gofio bod cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol anffurfiol yn fwy cyffredinol yn gallu bod yr un mor bwysig ac yn helpu i ffurfio strwythur sy’n gallu ein helpu yn ein bywydau bob dydd ac arwain at fanteision iechyd sylweddol.

 

Rydym yn ffodus yng Nghymru o gael cymaint o ardaloedd o harddwch eithriadol sy’n rhoi cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored a defnyddio ein “campfa werdd”. Er enghraifft, mae coetiroedd croesawgar wedi’u rheoli’n dda yn lleoliad rhagorol ar gyfer gweithgarwch corfforol awyr agored. Gall defnyddio a mwynhau coetiroedd a mannau gwyrdd gyfrannu at les corfforol, meddyliol ac emosiynol pawb yng Nghymru  a gwneud cyfraniad pwysig i anghenion iechyd penodol cymunedau.

 

Mae Ystad Goetir Gyhoeddus Llywodraeth Cymru, a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn cwmpasu ardal sy’n 126,000ha. Bob blwyddyn, mae tua phedwar miliwn o bobl yn ymweld â’r coetiroedd a reolir gan CNC, yn cynnwys 500,000 sy’n ymweld ag un o’r pum canolfan ymwelwyr a leolir yn y coetiroedd. Mae CNC wedi dechrau gwaith gydag Athletau Cymru hefyd i ddatblygu a hyrwyddo llwybrau rhedeg yng Nhgoetiroedd Cymru - gyda Choed y Brenin eisoes yn cynnwys sawl llwybr rhedeg hynod boblogaidd. Mae Athletau Cymru hefyd yn cynnal digwyddiadau mawr mewn coetiroedd a reolir gan CNC, gyda rowndiau pencampwriaeth eleni yn cael eu cynnal yng Nghoedwig Gwydir (ardal Betws-y-Coed). Mae hyn yn enghraifft dda o fanteisio ar ein hadnoddau naturiol i roi cyfle i unigolion a grwpiau gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau awyr agored fel beicio mynydd, beicio, cerdded, marchogaeth, cyfeiriannu, rasio cŵn hysgi a llawer o weithgareddau eraill.

 

Mae’n rhaid i mi gyfeirio at ein tri Pharc Cenedlaethol yng Nghymru sy’n cwmpasu ardal o dros 4,000 cilometr sgwâr. Mae nodweddion arbennig bob parc yn wahanol o ran cymeriad y dirwedd, eu treftadaeth hanesyddol a diwylliannol ond mae pob un yn denu miliynau o ymwelwyr bob blwyddyn, llawer ohonynt yn cymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau awyr agored.

 

Mae’r Rhaglen Lywodraethu’n cynnwys nifer o ymrwymiadau sy’n ceisio sicrhau mynediad gwella i’r awyr agored ar gyfer gweithgarwch corfforol, yn enwedig i deuluoedd a phlant. Rwy’n credu bod yna elfen gynhenid o anghydraddoldeb yn gysylltiedig â’r dosbarthiad anghyfartal o fannau gwyrdd a’u safon ledled Cymru, yn cynnwys rhandiroedd, a mynediad i gyfleoedd hamdden awyr agored;  gyda llawer o lefydd a gweithgareddau yn waharddedig. Mae hyn yn groes i fy syniad i o gyfiawnder cymdeithasol, a hefyd yn methu ag ymateb i alw cyfredol a galw tebygol y dyfodol. Rwyf wedi bod yn ystyried y dewisiadau sydd ar gael ar gyfer gwella cyfleoedd mynediad a gallai cyflwyno newidiadau i ddeddfwriaeth fod yn rhan o’r ateb. Mae’n ddyddiau cynnar ond mae’r egwyddorion sy’n sail i’m trafodaethau’n seiliedig ar gynnwys yr angen i foderneiddio a symleiddio’r fframwaith rheoleiddio cyfredol. Ar hyn o bryd, mae’r fframwaith yn feichus yn weinyddol ac yn gymhleth i’r cyhoedd i’w ddeall. Swyddogaeth y Llywodraeth yw sicrhau manteision i lawer nid ychydig o bobl, tra’n gwarchod natur a diogelu gweithgareddau masnachol cyfredol a rheoli tir o ddydd i ddydd.

 

Teithio Llesol

 

Rwy’n gyfrifol am ddarparu’r Bil Teithio Llesol. Nod y Bil yw gwneud cerdded a beicio yn ffordd arferol o wneud teithiau byr pwrpasol mewn cymunedau. Bydd mwy o bobl yn profi manteision iechyd yr ymarfer hwn; byddwn yn lleihau ein hallyriadau nwyon tŷ gwydr; ac yn helpu i fynd i’r afael â thlodi ac anfantais drwy gyflwyno’r ddeddfwriaeth hon.

 

Mae’r rhaglenni canlynol gan Lywodraeth Cymru wedi gwella mynediad i’r awyr agored ar gyfer hamdden iach dros y cyfnod sy’n cael ei gwmpasu gan Creu Cymru Egnïol:

 

Mynediad i Gefn Gwlad

 

Ers 2007, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi mewn gwelliannau mynediad o amgylch arfordir Cymru drwy Raglen Gwella Mynediad i’r Arfordir. Mae’r cyllid wedi canolbwyntio ar wella llwybrau cyfredol a chreu rhai newydd ar yr arfordir gyda’r nod o gwblhau Llwybr Arfordir Cymru – Rhaglen Lywodraethu ac ymrwymiad blaenorol ‘Cymru’n Un’.

 

Cynllun Gwella Hawliau Tramwy


Roedd gofyn i awdurdodau lleol Cymru lunio Cynlluniau Gwella Hawliau Tramwy o dan Adran 60 Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2000). Mae’r rhain yn cwmpasu cyfnod o 10 mlynedd ac yn darparu cynllun wedi’i flaenoriaethu ar gyfer gwella’r rhwydwaith o hawliau tramwy lleol i bob math o ddefnyddwyr - cerddwyr, beicwyr, marchogion a phobl â phroblemau golwg a symud. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gweinyddu cyllid i awdurdodau lleol i gefnogi’r gwaith o weithredu eu cynlluniau gwella.

 

Sblash – Cronfa Her Mynediad i Ddŵr

 

Fel rhan o agenda hamdden awyr agored Llywodraeth Cymru rydym yn annog mynediad ehangach i’r cyhoedd i afonydd, llynnoedd a chronfeydd Cymru at ddibenion hamdden. Er bod gan Gymru adnoddau dŵr sylweddol mae llawer ohonynt yn cael eu tanddefnyddio ar gyfer hamdden y cyhoedd. Yn 2008/9, darparwyd grant mynediad Sblash am y tro cyntaf gan Lywodraeth Cymru i gefnogi unrhyw brosiectau sy’n hwyluso mynediad i ddŵr. Darparwyd dros £2 miliwn dros 6 mlynedd (2008/9 - 2012/13) ac mae wedi bod yn gynllun poblogaidd iawn gan arwain at ariannu llawer o brosiectau amrywiol yn ymwneud â mynediad.

 

 

Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru

 

Mewn perthynas â mynediad at yr awyr agored, o ganlyniad i Arolwg Hamdden Awyr Agored Cymru fe wyddom y canlynol: 

 

·         Roedd cyfrannau uchel o boblogaeth oedolion Cymru yn mynd allan i'r awyr agored yn 2011 gyda chyfartaledd o 95% wedi mynd allan i'r awyr agored yn y 12 mis diwethaf a 88% wedi mynd allan i'r awyr agored yn y 4 wythnos cyn y cyfweliad. Mae hyn yn seiliedig ar gofnodi cymryd rhan mewn ystod eang iawn o weithgareddau awyr agored;

·         Cerdded oedd y gweithgaredd a wnaed amlaf yn 2011, yn arbennig yn nhermau ymweliadau yn y 4 wythnos ddiwethaf (a gynhaliwyd ar 84% o ymweliadau). Yn 2011 cerdded oedd yr un prif weithgaredd a wnaethpwyd mewn 62% o ymweliadau, cyfran is nag yn 2008 (66%).

·         Roedd tua chwarter oedolion (27%) yn mynd allan i'r awyr agored 'yn aml' yn seiliedig ar gyfartaledd o 21 neu fwy o ymweliadau yn y 4 wythnos ddiwethaf. Roedd amlder y cyfranogiad a gofnodwyd ar lefel debyg yn 2008 a 2011. Rhwng 2008 a 2011, cafwyd cynnydd sylweddol yn y cyfrannau’n ymgymryd â seiclo, gwylio bywyd gwyllt, ymweld â meysydd chwarae a gemau anffurfiol ar ymweliadau;

·         Yn nhermau manteision iechyd posibl mynd allan i'r awyr agored, mewn ychydig dros ddau-draean yr ymweliadau i'r awyr agored yn 2011, dywedodd cyfranogwyr fod eu prif weithgaredd yn ddigon i gynyddu eu cyfradd anadlu (68%) ac yn dros hanner yr achosion hyn (58%) roedd y gweithgaredd yn ddigon caled i wneud i'r cyfranogwyr golli eu gwynt neu chwysu;

 

·         Yn nhermau prif gyrchfannau, y mathau o lefydd yr ymwelwyd mwyaf â hwy oedd coetiroedd/coedwigoedd (18%), parciau lleol (12%), bryniau, mynyddoedd a gweundir (11%) a thraethau (11%). Roedd y cyfrannau o ymweliadau lle mai coetiroedd/coedwigoedd neu draethau oedd y prif fath o gyrchfan yn uwch yn 2011 nag yn yr arolwg blaenorol (cynyddu o 14% i 18% a 7% i 11% yn yr un drefn), tra bod parciau lleol a phalmentydd neu draciau wrth ymyl y ffordd yn llai tebygol o fod y prif gyrchfannau yr ymwelwyd â hwy (yn gostwng i 15% i 12% a 12% i 9% yn yr un drefn).

 

Mae’r wybodaeth hon yn dangos yr effaith sylweddol y gall ein cyfleusterau hamdden awyr agored ei gael ar ddenu pobl i ddod yn fwy gweithredol yn rheolaidd.

 

Argaeledd setiau data ac ystadegau i fesur lefelau cyfranogi mewn chwaraeon, yn enwedig rhai wedi’u dadelfennu yn ôl maes cyfrifoldeb a grwpiau  economaidd-gymdeithasol;

Ym mis Mawrth eleni pasiwyd Gorchymyn Ystadegau Swyddogol (Cymru) 2013 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Effaith y gorchymyn oedd enwi nifer o sefydliadau yng Nghymru’n gynhyrchwyr ystadegau swyddogol. Ymhlith y rhestr o gyrff a ddynodwyd yn gynhyrchwyr ystadegau swyddogol oedd Chwaraeon Cymru. Mae hyn yn golygu bod Chwaraeon Cymru yn cadw at God Ymarfer Awdurdod Ystadegau’r DU sy’n cynnwys gweithio i set o egwyddorion a phrotocolau sy’n sicrhau bod ystadegau’n addas i’r diben a bod y fethodoleg yn gadarn ac yn dryloyw. Ymhellach, yn unol â menter Data Agored y Llywodraeth, mae holl ddata Chwaraeon Cymru ar gael drwy eu gwefan ac yn cael ei arddangos er mwyn i bobl gael ei weld a’i ddeall yn rhwydd.

 

Arolygon Chwaraeon Cymru / Iechyd Cymru

Mae Chwaraeon Cymru yn rhedeg dau brif arolwg bob dwy flynedd, yr Arolwg ar Oedolion Egnïol a’r arolwg ar Chwaraeon Ysgol. Mae Arolwg diweddaraf Chwaraeon Cymru ar Chwaraeon Ysgolion (2011) yn dangos bod 65% o ddisgyblion ysgol uwchradd a 78% o ddisgyblion ysgol gynradd yn cyfranogi mewn chwaraeon allgyrsiol a bod 85% o ddisgyblion ysgol gynradd yn cyfranogi mewn chwaraeon gyda chlwb. Mae’r tueddiadau mewn cyfranogiad oedolion wedi parhau’r un fath dros y 25 mlynedd diwethaf, gyda rhwng 35% a 40% o oedolion 15 oed ac yn hŷn yn cyfranogi mewn chwaraeon o leiaf unwaith y mis.

 

Mae Arolwg Chwaraeon Cymru ar Oedolion Egnïol 2013 ar waith ar hyn o bryd ac mae’n cynnwys sampl o tua 18,000 i 20,000 o faint. Mae hyn yn cyd-fynd â’r arolwg ar Chwaraeon Ysgol sy’n cynnwys sampl o tua 40,000 o faint. Disgwylir canlyniadau’r arolygon hyn yn yr hydref. Bydd y data yn helpu i ddangos pa mor dda rydym ni’n llwyddo i gael pobl yng Nghymru i gyfranogi mewn chwaraeon, fel cyfranogwyr a gwirfoddolwyr.

 

Y cyfleoedd a’r rhwystrau o ran cyfranogi mewn chwaraeon sy’n bodoli i grwpiau gwahanol o bobl, gan gynnwys yn ôl maes cydraddoldeb a grwpiau cymdeithasol-economaidd

 

Mae Llywodraeth Cymru’n dymuno sicrhau bod pob oed, rhyw a grŵp cymdeithasol yn cael cyfle cyfartal mewn chwaraeon a bod pob person ifanc, beth bynnag eu cefndir personol a chymdeithasol, yn cael cyfleoedd yn eu bywyd i ddatblygu a mwynhau chwaraeon a chyflawni eu gwir botensial. Mae Chwaraeon Cymru wedi bod yn cynnal ymchwil i’r rhesymau pam nad yw rhai pobl yn cymryd rhan mewn chwaraeon a’r rhesymau pam eu bod yn rhoi’r gorau iddi ar wahanol oedrannau. Ceir nifer o resymau gan gynnwys diffyg mwynhad, llai o chwaraeon ar gael felly llai o gyffro mewn chwaraeon ac roedd rhai’n teimlo bod cymryd rhan yn mynd yn rhy gystadleuol ac yn dileu elfen gymdeithasol cyfranogi. Mae Chwaraeon Cymru yn parhau i ganolbwyntio ar ddarparu cyfleoedd o ansawdd uchel i fenywod a merched allu cyfranogi mewn chwaraeon ac ar ôl cynnal rhywfaint o ymchwil ansoddol bydd yn gwneud y maes hwn yn thema blaenoriaeth gorfforaethol ar gyfer y flwyddyn nesaf a bydd yn ffurfio tasglu i graffu ar eu gwaith yn y maes.

 

Mae Strategaeth Tlodi Plant Chwaraeon Cymru yn cynnwys nodau tymor hir sy’n cynnwys sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn cynyddu cyfranogiad ymhlith plant a phobl ifanc sy’n byw mewn tlodi a chynnydd o ran gwirfoddoli ymhlith oedolion yn y graddfeydd cymdeithasol is, gan gyfrannu at darged Chwaraeon Cymru o gael 10% o boblogaeth oedolion Cymru’n gwirfoddoli mewn chwaraeon erbyn 2016.

 

Mae Chwaraeon Cymru hefyd yn gweithio’n agos gyda Stonewall i sicrhau bod pobl lesbaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol yn gallu mwynhau cyfranogi mewn chwaraeon a’u bod yn gallu teimlo’n ddiogel, bod croeso iddynt ac nad oes camwahaniaethu yn eu herbyn. Mae hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru’n ei gefnogi’n llwyr ac rwyf i’n falch mai canlyniad y gwaith hwn fu datblygu siarter LGBT a gaiff ei lansio’n yn y dyfodol agors gan Chwaraeon Cymru. Rydym ni’n credu y dylai pawb allu cyfranogi mewn chwaraeon, beth bynnag yw eu cefndir, tueddfryd rhywiol neu allu.

 

Mae’n bwysig hefyd cydnabod y rhwystrau ychwanegol a wynebir gan bobl anabl a gwneud popeth a allwn i fynd i’r afael â nhw. I lawer o bobl anabl y rhwystr mwyaf yw eu hagwedd eu hunain neu agweddau pobl eraill. Mae angen i ni ystyried yn ofalus sut rydym ni’n hyrwyddo chwaraeon a gweithgaredd corfforol i’r bobl anabl hynny a allai gredu’n anghywir fod ymarfer corff yn ddrwg iddynt neu y tu hwnt i’w gallu. Mae’n bosibl fod gan bobl nad ydynt yn anabl agweddau negyddol at bobl sy’n wahanol; agweddau or-nawddogol; neu agweddau difater gydag anghenion a phryderon pobl anabl yn cael eu hanwybyddu.

 

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru yn parhau i ddarparu cyfleoedd mwy niferus ac o ansawdd uwch i bobl ag anabledd allu cymryd rhan mewn chwaraeon. Maent wedi cefnogi gosod Swyddogion Datblygu ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru er mwyn creu a chynnal cyfleoedd ar lawr gwlad mewn chwaraeon. Cymhariaeth ddiddorol sy’n adlewyrchu’r cynnydd sy’n cael ei wneud yw mai dim ond 31 o glybiau chwaraeon anabl oedd wedi’u cofrestru ar draws Cymru yn 2002 ac erbyn hyn mae gennym ni dros 330.  

 

Er mwyn gwneud y defnydd gorau o’r cyfleoedd sydd ar gael a mabwysiadu dull cydweithredol mae’n bwysig fod Chwaraeon Cymru yn ymgysylltu nid yn unig ag awdurdodau lleol ond hefyd eu bod yn gweithio gyda chyrff llywodraethu chwaraeon. Mae hyn yn hanfodol pan fyddwn ni’n ystyried pa gyfleusterau chwaraeon sy’n bodoli ac i sicrhau bod gan bobl gyfle i brofi cyfleoedd chwaraeon o ansawdd uchel. Yn dilyn trafodaethau gyda chyrff llywodraethu chwaraeon, sy’n cynnwys Cymdeithas Bêl-droed Cymru, Undeb Rygbi Cymru a Hoci Cymru, mae Chwaraeon Cymru wedi cytuno mewn egwyddor i fuddsoddiad o hyd at £3m dros 4 blynedd i ddatblygu lleiniau 3G. Gall y mathau hyn o gyfleusterau fod â swyddogaeth bwysig wrth greu cyfleoedd i’r gymuned ehangach ac annog grwpiau, megis menywod a merched, i gymryd rhan mewn chwaraeon.

 

Beth yw’r cysylltiadau rhwng rhaglenni i ddatblygu chwaraeon yng Nghymru a mentrau eraill gan Lywodraeth Cymru i gynyddu gweithgaredd corfforol?

 

Fel y nodais ynghynt, mae cyswllt clos rhwng chwaraeon a gweithgaredd corfforol ac mae angen i ni sicrhau bod y meysydd hyn yn chwarae rhan allweddol ym mywydau bob dydd pobl, yn enwedig ymhlith pobl ifanc, a fydd yn helpu cenedlaethau’r dyfodol i fyw bywyd mwy egnïol ac iachus.

 

Sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Ysgolion a Gweithgaredd Corfforol gan fy rhagflaenydd a’r Gweinidog Addysg a Sgiliau. Cadeirydd y Grŵp oedd y Farwnes Tanni Grey-Thompson a bu’n edrych ar y ffordd orau i ddatblygu rôl ysgolion wrth gynyddu lefelau o weithgaredd corfforol ymhlith plant a phobl ifanc. Rwyf i wedi nodi casgliadau’r adroddiad gyda diddordeb ac rwyf i’n edrych ymlaen at weithio gyda’r Gweinidog Addysg i symud y gwaith hwn yn ei flaen.

 

O ran chwaraeon ysgolion, sefydlwyd y Fenter Addysg Gorfforol a Chwaraeon mewn Ysgolion mewn partneriaeth gyda Chwaraeon Cymru i ymdrin â’r maes hwn. Cyllidir y Fenter hon gan Lywodraeth Cymru, a’i nod allweddol yw gwella safonau o ran darpariaeth ymarfer corff a chwaraeon mewn ysgolion ac mae’n ategu rhaglenni Chwaraeon Cymru, Campau’r Ddraig a 5 x 60. Mae’r Fenter yn cyfoethogi ansawdd ac amrywiaeth y cyfleoedd a ddarperir i bobl ifanc allu ymwneud â gweithgaredd corfforol a gwella eu hiechyd a’u ffitrwydd.

 

Yn ogystal mae Grŵp Gweithredol Gweithgaredd Corfforol wedi’i sefydlu a fydd yn gosod cyfeiriad newydd i gynyddu lefelau o weithgaredd corfforol. Mae’r Grŵp hwn yn dal i fod yn newydd ond roedd y cyfarfod cyntaf yn gynhyrchiol iawn ac rwyf i’n edrych ymlaen at weld y Grŵp yn datblygu polisïau yn y dyfodol a all helpu i adfywio dulliau o gynyddu lefelau o weithgaredd yng Nghymru. Bydd y gwaith hwn hefyd yn cynorthwyo â chyflenwi nifer o ymrwymiadau ‘r Rhaglen Lywodraethu.

 

Effaith gwaddol y Gemau Olympaidd a Pharalympaidd, Cwpan Ryder a digwyddiadau a llwyddiannau chwaraeon eraill uchel eu proffil yng Nghymru ac ar lefelau cyfranogi yng Nghymru.

 

Roedd Gemau Olympaidd a Pharalympaidd 2012 yn Llundain yn ddigwyddiad chwaraeon rhyfeddol a helpodd i godi proffil chwaraeon ar draws Cymru. Ein nod yw sicrhau ein bod yn defnyddio digwyddiadau chwaraeon ar raddfa fawr fel man cychwyn i helpu i annog pobl o bob oed, rhyw a grŵp cymdeithasol i gymryd rhan mewn chwaraeon a bod hynny’n dod yn rhywbeth cynaliadwy a thymor hir. Mae Chwaraeon Cymru yn adrodd bod cynnydd sylweddol wedi’i weld mewn aelodaeth clybiau rhai campau dros y 6 mis diwethaf a bod digwyddiadau fel Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 wedi cael effaith gadarnhaol fawr.

 

Gemau Cymru yw prif brosiect gwaddol chwaraeon Llundain 2012 a’r prif ddigwyddiad yng nghalendr chwaraeon Cymru i wella llwybr perfformio’r campau Olympaidd, y Gymanwlad a Pharalympaidd a chynnig cyfle i athletwyr ifanc talentog gystadlu o fewn amgylchedd aml-gampau proffil uchel. Mae’n derbyn cefnogaeth Uned Digwyddiadau Mawr Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru a’r Urdd. Y llynedd roedd y digwyddiad yn cynnwys 13 o gampau a denodd dros 1,300 o athletwyr o bob rhan o Gymru i gystadlu mewn lleoliadau yng Nghaerdydd. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr Uned Digwyddiadau Mawr i sicrhau’r buddiannau gorau bosibl o Gemau Cymru a hybu eu heffaith tymor hir a’u cynaliadwyedd.

 

Mae Chwaraeon Anabledd Cymru wedi gweithio’n galed i adeiladu ar y momentwm a enillwyd yn sgil Gemau Paralympaidd Llundain 2012 ac wedi dangos bod cael y seilwaith iawn, ynghyd â gweledigaeth glir a gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, yn gallu sicrhau canlyniadau; caiff hyn ei adlewyrchu yn y twf a welwyd yn y nifer o glybiau chwaraeon anabledd sy’n cael eu sefydlu ac yn aelodaeth y clybiau yng Nghymru.

 

Sefydlwyd Datblygu Golff Cymru o ganlyniad i gynnig llwyddiannus Cymru i gynnal Cwpan Ryder. Dyma gangen datblygu Undeb Golff Cymru ac mae’n bartneriaeth strategol rhwng Undeb Golff Cymru, y Sefydliad Golff a Chwaraeon Cymru. Crëwyd Cronfa Gwaddol Cwpan Ryder i sicrhau bod cynnal Cwpan Ryder yn 2010 wedi cael effaith ar y genedl, nid dros gyfnod y digwyddiad yn unig, ond am flynyddoedd i ddod. Roedd ymrwymiad o £2m gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ar y pryd yn cynnig cyfle ardderchog i hybu datblygiad y gêm yng Nghymru. Cafodd cyfanswm o 40 o brosiectau gymorth mewn 38 o gyfleusterau ar draws Cymru. Y flwyddyn ar ôl Cwpan Ryder bu tua 33,000 o bobl yn cyfranogi mewn cynlluniau a drefnwyd gan Datblygu Golff Cymru a chynyddodd aelodaeth iau mewn clybiau, yn enwedig ymhlith merched iau.

 

Gall cynnal digwyddiadau chwaraeon cyfranogol ar raddfa fawr helpu i ddenu ac ysbrydoli pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon. Er enghraifft yn 2012  daeth miloedd lawer o bobl i wylio cam Cymru digwyddiad Seiclo Cylchdaith Prydain ar y ffordd rhwng y Trallwng a Chaerffili.

 

Rydym ni newydd brofi tymor pêl-droed eithriadol o gyffrous gyda chryn lwyddiant i nifer o’n clybiau Cymreig. Er mwyn manteisio ar lwyddiant chwaraeon Cymru rwyf i’n ystyried y ffordd orau i ni gynyddu cyfleoedd nawr bod dau dîm pêl-droed yn yr Uwch Gynghrair ac un arall yn y gynghrair bêl-droed. Rwyf i’n cynnal cyfarfodydd gyda nifer o bartneriaid gan gynnwys yr Uwch Gynghrair i helpu i bennu sut y gall ein clybiau gysylltu â’u cynlluniau i helpu i hybu twf yn y gêm ar lefel llawr gwlad/cymunedol a chynnig cyfleoedd i grwpiau anoddach eu cyrraedd.

 

Casgliad

 

Chwaraeon yw asgwrn cefn Cymru. Mae miloedd ohonom eisoes yn cymryd rhan drwy fod yn gyfranogwyr, yn wirfoddolwyr, yn hyfforddwyr, yn wylwyr neu, yn achos nifer o rieni yn benodol, yn gyfuniad o’r rhain. Er ein bod yn gweld rhai o’n timau a’n athletwyr gorau yn profi llwyddiant na welwyd erioed o’r blaen, rydym wedi cyrraedd cyfnod anodd iawn. Mae’r cyfraddau gweithgarwch corfforol ymhlith grwpiau sy’n anodd eu cyrraedd wedi aros ar yr un lefel ers tro, ac mae’r cyllid sydd ar gael i glybiau chwaraeon ac awdurdodau lleol yn prinhau. Mae Llywodraeth Cymru’n cydnabod bod y ffactorau hyn yn golygu bod hyd yn oed mwy o gyfrifoldeb arnom ni, a’n hasiantwyr cyflenwi, i ddangos arweinaid cryf. Byddwn yn gweithio gyda llywodraeth leol i annog cydweithredu ystyrlon er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa ariannol a datblygu gwasanaethau gwell a mwy cydlynol. Rydym hefyd yn gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod ein rhaglenni presennol yn cyflawni’r canlyniadau a ddisgwyliwn. Rydym yn parhau i ymrwymo i gyflawni’r agenda gweithgarwch corfforol yn raddol, a hefyd i newid yn syweddol y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau. Rydym yn gwybod bod datgloi potensial chwaraeon anffurfiol a threfnedig yn allweddol i gymryd y cam mawr hwn ymlaen.

 

John Griffiths AC

Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon